Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Awst 2020
Amser:
13.00 -
16.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6433
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Ruth Conway, Llywodraeth Cymru Nicola Edwards, Llywodraeth Cymru Christopher Jones, Llywodraeth Cymru Kevin Palmer, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Gareth Lucey |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Nodwyd y papur.
2a Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (14 Gorffennaf 2020)
3 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru;
3.1 Holodd y Pwyllgor Tracey Burke, Ruth Conway, Nicola Edwards, Chris Jones a Kevin Palmer fel rhan o'i Ymchwiliad i COVID-19 ar yr effeithiau ar wasanaethau addysg.
3.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch nifer o bwyntiau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Senedd
5.1 Holodd y Pwyllgor Manon Antoniazzi, Nia Morgan a Lowri Williams fel rhan o'i ymchwiliad i COVID-19 ar yr effeithiau ar Gomisiwn y Senedd.
6 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Blaenraglen waith – Tymor yr Hydref 2020
7.1 Bu'r Aelodau'n ystyried ac yn cytuno ar raglen waith Tymor yr Hydref 2020 ond gofynnwyd iddynt barhau i fod yn hyblyg i alluogi'r Pwyllgor i ymateb i faterion wrth iddynt ddod i'r amlwg.
7.2 Bu'r Aelodau'n ystyried ac yn trafod y papur ar yr ymchwiliad sydd ar ddod ar Adroddiad Statudol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a gofyn am bapur pellach yn gynnar ym mis Medi.